banner image prysg home
y cwmniy gwasanaethauswyddicysylltu a ni
  quote

      y gwasanaethau
  Cyfieithu Ysgrifenedig

   
 

Mae prysg yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig o'r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Gall prysg ymfalchïo yn ei allu i ymateb i ystod helaeth o ofynion cyfieithu, yn brydlon ac yn ddiffwdan gan ddiwallu anghenion ei gleientiaid bob tro.

Bydd y cyfieithwyr yn gweithio mewn timau, gan gwmpasu amrywiol arbenigeddau o addysg i amaeth, o iechyd i gyllid ac o gynllunio i gyflogaeth.

Swyddogaeth pob cyfieithydd fydd sicrhau bod y cyfieithiad yn adlewyrchu'r ddogfen wreiddiol o ran

  • cynnwys
  • arddull
  • diwyg

Yna, bydd y cyfieithydd yn trosglwyddo'r testun i uwch gyfieithydd a fydd yn ei wirio i sicrhau ei fod

  • yn gywir
  • yn raenus
  • yn darllen yn hollol naturiol

Mae sicrwydd ansawdd yn elfen hanfodol o'r gwaith a gynhyrchir gan prysg.

Cysylltwch â'r Cydlynydd Cyfieithu


  Cyflwyniad
Cyfieithu Ysgrifenedig
Cyfieithu ar y Pryd
Prawfddarllen
Arbenigedd Ieithyddol
Cyfleusterau


hafan | y cwmni | y gwasanaethau | swyddi | cysylltu â ni